Cod Ymddygiad

Gweler y dudalen yn Saesneg/View page in English

Rydyn ni’n annog pawb i fynychu ein dosbarthiadau a'n digwyddiadau. Ni fyddwn yn gwahaniaethu yn erbyn unrhyw un. Ni fyddwn yn gwahaniaethu yn ôl mynegiant rhywedd na chyfeiriadedd rhywiol, na hil, crefydd na chenedligrwydd. Byddwn yn trin pawb yn deg, waeth beth fo'u hoedran, gallu, niwroamrywiaeth, ymddangosiad corfforol, ffordd o fyw neu brofiad.

Ein nod yw bod yn groesawgar, yn gefnogol ac yn gyfeillgar ac ni fyddwn yn goddef unrhyw ymddygiad amhriodol. Mae gennym yr holl bolisïau a gweithdrefnau angenrheidiol ar waith i sicrhau y gallwn ddelio'n effeithiol ag unrhyw ymddygiad amhriodol neu gŵyn a all godi.

Os hoffech ddarllen ein polisïau ynghylch Diogelu, amrywiaeth, iechyd a diogelwch, asesiadau risg, cyflogaeth a gwirfoddolwyr, cysylltwch â Paula neu Steve Eldridge.

Mae Lindy Hop Jive CIC Y Tymbl wedi'i yswirio'n llawn.
Mae Lindy Hop Jive CIC Y Tymbl yn gofrestredig trwy Dŷ'r Cwmnïau.